Gwefan Swyddogol Tystion Jehofah

Adre Beliefs Future Medical Topics Contact Us Publications Languages
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Gwers 1Erthygl flaenorolErthygl nesaf

Sut Medrwch Chi Ganfod Beth Mae Duw yn ei Ofyn

Pa wybodaeth bwysig a gynhwysir yn y Beibl? (1)
Pwy yw awdur y Beibl? (2)
Pam dylech chi astudio’r Beibl? (3)

1. Rhodd werthfawr oddi wrth Dduw ydi’r Beibl. Mae e’n debyg i lythyr oddi wrth dad cariadus i’w blant. Mae’n dweud y gwirionedd wrthym am Dduw—pwy ydi e a beth yw ei safonau. Mae e’n egluro sut i ymdopi â phroblemau a sut i ganfod gwir hapusrwydd. Y Beibl yn unig sy’n dweud wrthym beth y mae’n rhaid inni ei wneud i foddhau Duw.—Salmau 1:1-3; Eseia 48:17, 18.

2. Fe ysgrifennwyd y Beibl gan rhyw 40 o ddynion gwahanol dros gyfnod o 1,600 mlynedd, gan ddechrau yn 1513 C.C.C. (Cyn y Cyfnod Cyffredin) Mae e’n cynnwys 66 o lyfrau bach. ’Roedd y rhai a ysgrifennodd y Beibl wedi eu hysbrydoli gan Dduw. Fe fu iddyn’ nhw ysgrifennu ei feddyliau e, nid eu rhai eu hunain. Felly Duw yn y nefoedd, nid unrhyw fod dynol ar y ddaear, yw Awdur y Beibl.—2 Timotheus 3:16, 17; 2 Pedr 1:20, 21.

3. Fe sicrhaodd Duw fod y Beibl yn cael ei gopïo’n gywir a’i ddiogelu. Mae mwy o Feiblau wedi’u hargraffu nag unrhyw lyfr arall. ’Fydd pawb ddim yn hapus o’ch gweld chi’n astudio’r Beibl, ond peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro chi. Mae eich dyfodol tragwyddol yn dibynnu ar ddod i ’nabod Duw a gwneud ei ewyllys ef er gwaethaf unrhyw wrthwynebiad.—Mathew 5:10-12; Ioan 17:3.

 

Cyhoeddwyd yn 1996

AdreTopErthygl flaenorolErthygl nesaf

Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved.