Gwefan Swyddogol Tystion Jehofah

Adre Beliefs Future Medical Topics Contact Us Publications Languages
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Gwers 2Erthygl flaenorolErthygl nesaf

Pwy Yw Duw?

Pwy ydi’r gwir Dduw, a beth yw ei enw? (1, 2)
Pa fath o gorff sydd ganddo? (3)
Beth ydi ei nodweddion nodedig? (4)
’Ddylem ni ddefnyddio delwau a symbolau wrth inni ei addoli? (5)
Pa ddwy ffordd sydd gennym i ddysgu am Dduw? (6)

1. Mae pobl yn addoli llawer o bethau. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthym mai dim ond un GWIR Dduw sydd. Fe greodd bopeth yn y nefoedd ac ar y ddaear. Oherwydd iddo roddi bywyd inni, ef yw’r unig Un y dylem ei addoli.—1 Corinthiaid 8:5, 6; Datguddiad 4:11.

2. Mae gan Dduw lawer o deitlau, ond dim ond un enw sydd ganddo. JEHOFAH ydi’r enw hwnnw. Yn y rhan fwyaf o Feiblau, mae enw Duw wedi cael ei ddileu ac wedi cael ei ddisodli gan y teitlau ARGLWYDD neu DUW. Ond pan ysgrifennwyd y Beibl, fe ymddangosai yr enw Jehofah ynddo rhyw 7,000 o weithiau!—Exodus 3:15; Salmau 83:18, Beibl Cysegr-Lân.

3. Mae gan Jehofah gorff, ond ’dyw e ddim fel ein corff ni. “Ysbryd yw Duw,” meddai’r Beibl. (Ioan 4:24) Mae ysbryd yn ffurf ar fywyd sy’n llawer uwch na’n bywyd ni. ’Does neb dynol erioed wedi gweld Duw. Mae Jehofah yn byw yn y nefoedd, ond mae e’n medru gweld pob peth. (Salmau 11:4, 5; Ioan 1:18) Ond, beth yw’r ysbryd sanctaidd? Nid person ydyw fel Duw. Yn hytrach, grym gweithredol Duw ydyw.—Salmau 104:30, BCL.

4. Mae’r Beibl yn datguddio personoliaeth Jehofah inni. Mae’n dangos mai ei nodweddion nodedig ydi cariad, cyfiawnder, doethineb, a gallu. (Deuteronomium 32:4; Job 12:13; Eseia 40:26; 1 Ioan 4:8) Mae’r Beibl yn dweud wrthym ei fod e hefyd yn drugarog, yn garedig, yn faddeugar, yn hael, ac yn amyneddgar. Fe ddylem ni, fel plant ufudd, geisio’i efelychu.—Effesiaid 5:1, 2.


’Rydym yn dysgu am Dduw o’r greadigaeth ac o’r Beibl

5. ’Ddylem ni ymgrymu i ddelwau, lluniau, neu symbolau neu weddïo arnyn’ nhw wrth inni addoli? Na ddylem! (Exodus 20:4, 5) Mae Jehofah yn dweud mai ef yn unig yr ydym i’w addoli. Ni fydd yn rhannu ei ogoniant â neb na dim arall. ’Does gan ddelwau ddim gallu i’n helpu ni.—Salmau 115:4-8; Eseia 42:8.

6. Sut medrwn ni ddod i ’nabod Duw yn well? Un ffordd ydi trwy arsylwi ar y pethau a greodd ac ystyried yn ddwfn yr hyn a ddywedant wrthym. Mae creadigaethau Duw yn dangos inni fod ganddo allu a doethineb mawr. Fe welwn ei gariad ym mhopeth a wnaeth. (Salmau 19:1-6; Rhufeiniaid 1:20) Ffordd arall y gallwn ni ddysgu am Dduw ydi trwy astudio’r Beibl. Ynddo mae E’n dweud llawer mwy wrthym am y math o Dduw ydi E. Mae E hefyd yn dweud wrthym am Ei bwrpas a beth y mae eisiau i ni ei wneud.—Amos 3:7; 2 Timotheus 3:16, 17.

 

Cyhoeddwyd yn 1996

AdreTopErthygl flaenorolErthygl nesaf

Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved.