| Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? | Gwers 3 |
Pwy Yw Iesu Grist? |
|
| Pam mae Iesu yn cael ei alw yn Fab “cyntafanedig” Duw? (1) | |
| Pam mae e’n cael ei alw “y Gair”? (1) | |
| Pam daeth Iesu i’r ddaear ar ffurf dyn? (2-4) | |
| Pam ’roedd e’n cyflawni gwyrthiau? (5) | |
| Beth fydd Iesu yn ei wneud yn y dyfodol agos? (6) | |
1. ’Roedd Iesu yn byw yn y nefoedd ar ffurf ysbryd cyn iddo ddod i’r ddaear. Ef oedd creadigaeth cyntaf Duw, ac felly mae’n cael ei alw yn Fab “cyntafanedig” Duw. (Colosiaid 1:15; Datguddiad 3:14) Iesu ydi’r unig Fab i Dduw ei hun ei greu. Fe ddefnyddiodd Jehofah yr Iesu cynddynol fel ei athrylith o gynllunydd “wrth ei ochr yn gyson” i greu pob peth arall yn y nefoedd ac ar y ddaear. (Diarhebion 8:22-31; Colosiaid 1:16, 17) Fe ddefnyddiodd Duw e hefyd fel Ei brif lefarydd. Dyna pam y gelwir Iesu “y Gair.”—Ioan 1:1-3; Datguddiad 19:13.
2. Fe anfonodd Duw Ei Fab i’r ddaear drwy drosglwyddo ei fywyd i groth Mair. Felly ’doedd gan Iesu ddim tad dynol. Dyna pam na fu iddo etifeddu unrhyw bechod nac amherffeithrwydd. Anfonodd Duw Iesu i’r ddaear am dri rheswm: (1) I ddysgu inni’r gwirionedd am Dduw (Ioan 18:37), (2) i gynnal uniondeb perffaith, gan osod esiampl i ni ei dilyn (1 Pedr 2:21), a (3) i aberthu ei fywyd i’n rhyddhau ni o afael pechod a marwolaeth. Pam ’roedd angen hyn?—Mathew 20:28. 3. Wrth anufuddhau i orchymyn Duw, fe gyflawnodd Adda, y dyn cyntaf, yr hyn y mae’r Beibl yn ei alw’n “bechod.” Felly, dedfrydodd Duw ef i farw. (Genesis 3:17-19) ’Doedd e ddim yn cwrdd â gofynion Duw mwyach, felly ’doedd e bellach ddim yn berffaith. Yn araf fe heneiddiodd a marw. Fe drosglwyddodd Adda bechod i’w holl blant. Dyna pam ’rydym ninnau hefyd yn heneiddio, yn clafychu, a marw. Sut y gellid achub y ddynolryw?—Rhufeiniaid 3:23; 5:12. 4. ’Roedd Iesu’n fod dynol perffaith yn union fel Adda. Ond, yn wahanol i Adda, ’roedd Iesu’n berffaith ufudd i Dduw hyd yn oed o dan y prawf mwyaf. Gallai, o’r herwydd, aberthu ei fywyd dynol perffaith i dalu am bechod Adda. Dyma’r hyn y mae’r Beibl yn cyfeirio ato fel y “pridwerth.” Gellid felly ryddhau plant Adda rhag dedfryd marwolaeth. Gall pawb sy’n rhoi eu ffydd yn Iesu gael maddau eu pechodau a derbyn bywyd tragwyddol.—1 Timotheus 2:5, 6; Ioan 3:16; Rhufeiniaid 5:18, 19.
5. Pan ’roedd e ar y ddaear fe iachaodd Iesu y claf, bwydo’r newynog, a thawelu tymhestloedd. Fe atgyfododd e’r meirw hyd yn oed. Pam gyflawnodd e wyrthiau? (1) ’Roedd e’n teimlo tosturi dros bobl oedd yn dioddef, ac ’roedd e eisiau eu helpu nhw. (2) ’Roedd ei wyrthiau yn profi mai Mab Duw oedd e. (3) ’Roedden’ nhw’n dangos beth y bydd yn ei wneud ar ran y ddynolryw ufudd pan fydd yn teyrnasu fel Brenin dros y ddaear.—Mathew 14:14; Marc 2:10-12; Ioan 5:28, 29. 6. Bu Iesu farw ac fe gafodd ei atgyfodi gan Dduw yn ysbryd greadur, a dychwelodd i’r nef. (1 Pedr 3:18) Oddi ar hynny, mae Duw wedi’i wneud yn Frenin. Cyn bo hir fe fydd Iesu yn symud ymaith pob drygioni a dioddefaint oddi ar y ddaear hon.—Salmau 37:9-11; Diarhebion 2:21, 22. |
||||||||
Cyhoeddwyd yn 1996 |
|
Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved. |
|