Gwefan Swyddogol Tystion Jehofah

Adre Beliefs Future Medical Topics Contact Us Publications Languages
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Gwers 6Erthygl flaenorolErthygl nesaf

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Ble mae Teyrnas Dduw wedi’i lleoli? (1)
Pwy yw ei Brenin hi? (2)
Oes eraill â rhan yn teyrnasu gyda’r Brenin? Os oes, sawl un sydd? (3)
Beth sy’n dangos ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf? (4)
Beth fydd Teyrnas Dduw yn ei wneud dros y ddynolryw yn y dyfodol? (5-7)

1. Pan ’roedd e ar y ddaear, fe ddysgodd Iesu ei ganlynwyr i weddïo am Deyrnas Dduw. Llywodraeth yw teyrnas gyda brenin yn ben arni. Mae Teyrnas Dduw yn llywodraeth arbennig. Mae hi wedi’i sefydlu yn y nefoedd, a bydd yn teyrnasu dros y ddaear hon. Fe fydd hi’n sancteiddio, neu yn cysegru, enw Duw. Fe fydd hi’n gweithredu ewyllys Duw ar y ddaear fel y mae yn y nefoedd.—Mathew 6:9, 10.

2. Fe addawodd Duw y byddai Iesu yn dod yn Frenin Ei Deyrnas. (Luc 1:30-33) Pan oedd Iesu ar y ddaear, fe brofodd y byddai yn Llywodraethwr caredig, cyfiawn, a pherffaith. Pan ddychwelodd i’r nefoedd, ’chafodd e ddim ei orseddu’n Frenin Teyrnas Dduw yn syth. (Hebreaid 10:12, 13) Yn 1914, fe roddodd Jehofah i Iesu yr awdurdod a addawsai E iddo. Oddi ar hynny, mae Iesu wedi teyrnasu yn Frenin penodedig Jehofah yn y nefoedd.—Daniel 7:13, 14.

3. Mae Jehofah hefyd wedi dewis rhai dynion a merched ffyddlon o’r ddaear i fynd i’r nefoedd. Fe fyddan’ nhw’n teyrnasu gyda Iesu yn frenhinoedd, barnwyr ac offeiriaid dros y ddynolryw. (Luc 22:28-30; Datguddiad 5:9, 10) Fe alwodd Iesu’r cyd-lywodraethwyr hyn yn ei Deyrnas yn “braidd bychan.” Mae ’na 144,000 ohonyn’ nhw.—Luc 12:32; Datguddiad 14:1-3.

4. Unwaith y daeth Iesu yn Frenin, fe fwriodd e Satan a’i angylion drygionus allan o’r nefoedd ac i lawr i gyffniau’r ddaear. Dyna pam y mae pethau wedi gwaethygu cymaint yma ar y ddaear oddi ar 1914. (Datguddiad 12:9, 12) Rhyfeloedd, adegau o newyn, plâu, anghyfraith yn cynyddu—mae’r rhain oll yn rhan o “arwydd” yn dynodi fod Iesu yn teyrnasu a’i bod hi’n ddyddiau diwethaf y drefn bresennol.—Mathew 24:3, 7, 8, 12; Luc 21:10, 11; 2 Timotheus 3:1-5.

5. Cyn bo hir fe fydd Iesu yn barnu pobl, yn eu didoli fel y mae bugail yn gwahanu’r defaid oddi wrth y geifr. Y “defaid” ydi’r rhai hynny fydd wedi profi eu bod nhw’n ddeiliaid teyrngar iddo. Fe gânt dderbyn fywyd tragwyddol ar y ddaear. Y “geifr” ydi’r rhai hynny fydd wedi gwrthod Teyrnas Dduw. (Mathew 25:31-34, 46) Yn y dyfodol agos, fe fydd Iesu yn difa’r holl rai gafr-debyg. (2 Thesaloniaid 1:6-9) Os oes arnoch chi eisiau bod yn un o “ddefaid” Iesu, mae’n rhaid i chi wrando ar neges y Deyrnas a gweithredu’r hyn ’rydych yn ei ddysgu.—Mathew 24:14.

Dan deyrnasiad Iesu, ’fydd ’na ddim rhagor o gasineb na rhagfarn

6. Ar hyn o bryd mae’r ddaear wedi’i rhannu’n llawer o wledydd. Mae gan bob un ei llywodraeth ei hun. Mae’r cenhedloedd hyn yn aml yn ymladd â’i gilydd. Ond fe fydd Teyrnas Dduw yn disodli yr holl lywodraethau dynol. Teyrnasiad y Deyrnas fydd yr unig lywodraeth dros yr holl ddaear. (Daniel 2:44) Y pryd hwnnw ’fydd ’na ddim rhagor o ryfel, torcyfraith, a thrais. Fe fydd yr holl bobl yn byw yn gytún gyda’i gilydd mewn heddwch ac undod.—Micha 4:3, 4.

7. Yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Iesu, fe ddaw bodau dynol ffyddlon yn berffaith, ac fe ddaw’r ddaear gyfan yn baradwys. Erbyn diwedd y mil blynyddoedd, fe fydd Iesu wedi gwneud popeth y gofynnodd Duw iddo’i wneud. Yna fe fydd yn trosglwyddo’r Deyrnas yn ôl i’w Dad. (1 Corinthiaid 15:24) Beth am i chi ddweud wrth eich ffrindiau a’ch anwyliaid am yr hyn y bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud?

 

Cyhoeddwyd yn 1996

AdreTopErthygl flaenorolErthygl nesaf

Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved.