Gwefan Swyddogol Tystion Jehofah

Adre Beliefs Future Medical Topics Contact Us Publications Languages
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Gwers 7Erthygl flaenorolErthygl nesaf

Nesáu at Dduw mewn Gweddi

Pam mae hi’n bwysig i weddïo’n rheolaidd? (1)
Ar bwy dylem ni weddïo, a sut? (2, 3)
Beth sy’n destunau cymwys wrth weddïo? (4)
Pryd dylech chi weddïo? (5, 6)
A yw Duw yn gwrando ar bob gweddi? (7)

1. Siarad yn ostyngedig â Duw ydi gweddi. Fe ddylech weddïo ar Dduw yn rheolaidd. Felly fe fedrwch chi deimlo’n agos ato megis at ffrind annwyl. Mae Jehofah mor fawr a grymus, eto mae e’n gwrando ar ein gweddïau ni! ’Fyddwch chi’n gweddïo ar Dduw yn rheolaidd?—Salmau 65:2; 1 Thesaloniaid 5:17.

2. Mae gweddi yn rhan o’n haddoliad ni. Felly, dim ond ar Dduw, Jehofah, y dylem ni weddïo. Pan oedd Iesu ar y ddaear, ’roedd e bob amser yn gweddïo ar ei Dad, nid ar neb arall. Fe ddylem ninnau wneud yr un peth. (Mathew 4:10; 6:9) Fodd bynnag, fe ddylem ni ddweud ein holl weddïau yn enw Iesu. Mae hyn yn dangos ein bod ni’n parchu safle Iesu a bod gennym ffydd yn ei aberth pridwerthol.—Ioan 14:6; 1 Ioan 2:1, 2.

3. Wrth weddïo fe ddylem ni siarad â Duw o’n calon. ’Ddylem ni ddim dweud ein gweddïau o’n cof na’u darllen nhw o lyfr gweddi. (Mathew 6:7, 8) Fe fedrwn ni weddïo mewn unrhyw ystum parchus, ar unrhyw adeg, ac yn unrhyw fan. Fe all Duw glywed hyd yn oed gweddïau distaw a fynegir yn ein calonnau. (1 Samuel 1:12, 13) Da yw canfod lle tawel ar wahân i bobl eraill i ddweud ein gweddïau personol.—Marc 1:35.

4. Pa destunau fedrwch chi weddïo amdanyn’ nhw? Unrhyw beth a all effeithio ar eich cyfeillgarwch ag ef. (Philipiaid 4:6, 7) Mae’r weddi enghreifftiol yn dangos y dylem ni weddïo ynglŷn ag enw a phwrpas Jehofah. Fe allwn ni hefyd ofyn am ddarparu ein hanghenion materol, am faddau’n pechodau, ac am help i wrthsefyll prawf temtasiwn. (Mathew 6:9-13) ’Ddylai ein gweddïau ni ddim bod yn hunanol. Dim ond am bethau sydd mewn harmoni ag ewyllys Duw y dylem ni weddïo.—1 Ioan 5:14.

5. Fe gewch chi weddïo pryd bynnag mae eich calon yn eich ysgogi chi i ddiolch i Dduw neu i’w glodfori. (1 Cronicl 29:10-13) Fe ddylech weddïo pan mae problemau gennych a’ch ffydd yn cael ei rhoi ar brawf. (Salmau 55:22; 120:1) Mae hi’n addas gweddïo cyn pryd bwyd. (Mathew 14:19) Mae Jehofah yn ein gwahodd ni i weddïo “bob amser.”—Effesiaid 6:18.

6. Mae angen arbennig arnom i weddïo os ydym wedi cyflawni pechod difrifol. Ar adegau o’r fath fe ddylem ni erfyn am drugaredd a maddeuant Jehofah. Os cyffeswn ein pechodau iddo a gwneud ein gorau’n wirioneddol i beidio â’u hailadrodd nhw, mae Duw yn “faddeugar.”—Salmau 86:5; Diarhebion 28:13.

7. Dim ond ar weddïau pobl gyfiawn mae Jehofah yn gwrando. Er mwyn i Dduw wrando ar eich gweddïau chi, mae’n rhaid i chi fod yn gwneud eich gorau i fyw yn ôl ei ddeddfau. (Diarhebion 15:29; 28:9) Mae’n rhaid i chwi fod yn ostyngedig wrth weddïo. (Luc 18:9-14) Mae’n rhaid i chi ymdrechu i weithredu yn ôl yr hyn ’rydych yn gweddïo amdano. Fel hyn y byddwch yn profi fod gennych ffydd a’ch bod chi’n wirioneddol yn golygu’r hyn a ddywedwch. Dim ond wedyn y bydd Jehofah yn ateb eich gweddïau.—Hebreaid 11:6.

 

Cyhoeddwyd yn 1996

AdreTopErthygl flaenorolErthygl nesaf

Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved.