Gwefan Swyddogol Tystion Jehofah

Adre Beliefs Future Medical Topics Contact Us Publications Languages
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Gwers 8Erthygl flaenorolErthygl nesaf

Bywyd Teuluol Sy’n Boddhau Duw

Beth yw safle’r gŵr yn y teulu? (1)
Sut dylai gŵr drin ei wraig? (2)
Beth yw cyfrifoldebau tad? (3)
Beth yw rhan y wraig yn y teulu? (4)
Beth y mae Duw yn ei ofyn gan rieni a chan blant? (5)
Sut mae’r Beibl yn ystyried ymwahanu ac ysgariad? (6, 7)

1. Mae’r Beibl yn dweud mai’r gŵr yw pen ei deulu. (1 Corinthiaid 11:3) Rhaid i ŵr gael dim ond un wraig. Fe ddylen’ nhw fod yn gywir briod yng ngolwg y gyfraith. —1 Timotheus 3:2; Titus 3:1.

2. Fe ddylai gŵr garu ei wraig yn union fel mae’n ei garu ei hun. Fe ddylai ei thrin hi y ffordd mae Iesu’n trin ei ddilynwyr. (Effesiaid 5:25, 28, 29) ’Ddylai e byth daro’i wraig na’i chamdrin hi mewn unrhyw ffordd. Yn hytrach, fe ddylai e ddangos anrhydedd a pharch iddi. —Colosiaid 3:19; 1 Pedr 3:7.

Mae tad cariadus yn darparu ar gyfer ei deulu yn faterol ac yn ysbrydol

3. Fe ddylai tad weithio’n galed i ofalu am ei deulu. Rhaid iddo ddarparu bwyd, dillad, a llety i’w wraig a’i blant. Rhaid i dad hefyd sicrhau anghenion ysbrydol ei deulu. (1 Timotheus 5:8) Fe sydd yn arwain wrth helpu ei deulu i ddysgu am Dduw a’i bwrpasau.—Deuteronomium 6:4-9; Effesiaid 6:4.

4. Fe ddylai gwraig fod yn ymgeledd dda i’w gŵr. (Genesis 2:18) Fe ddylai hi gynorthwyo’i gŵr wrth ddysgu a hyfforddi eu plant. (Diarhebion 1:8) Mae Jehofah yn disgwyl i wraig ofalu am ei theulu yn gariadus. (Diarhebion 31:10, 15, 26, 27; Titus 2:4,5) Fe ddylai hi barchu ei gŵr.—Effesiaid 5:22, 23, 33.

5. Mae Duw yn disgwyl i blant ufuddhau i’w rhieni. (Effesiaid 6:1-3) Mae e’n disgwyl i rieni hyfforddi a chywiro eu plant. Mae gofyn i rieni dreulio amser gyda’u plant ac astudio’r Beibl gyda nhw, gan ofalu am eu hanghenion ysbrydol ac emosiynol. (Deuteronomium 11:18, 19; Diarhebion 22:6, 15) ’Ddylai rhieni byth ddisgyblu eu plant mewn modd creulon neu lym.—Colosiaid 3:21.

Mae Duw yn disgwyl i rieni hyfforddi a chywiro eu plant

6. Pan fo cymheiriaid priodas yn cael trafferthion cyd-dynnu, fe ddylen’ nhw geisio gweithredu cyngor y Beibl. Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ddangos cariad a bod yn faddeugar. (Colosiaid 3:12-14) Nid yw Gair Duw yn cymeradwyo ymwahanu fel ffordd i ddatrys problemau llai. Ond fe all gwraig ddewis gadael ei gŵr (1) os yw e’n ystyfnig wrthod cynnal ei deulu, (2) os yw e mor dreisgar fel bod ei hiechyd a’i bywyd hi mewn perygl, neu (3) os yw ei wrthwynebiad eithafol yn ei gwneud hi’n amhosibl iddi hi addoli Jehofah.— 1 Corinthiaid 7:12, 13.

7. Mae’n rhaid i gymheiriaid priodas fod yn ffyddlon i’w gilydd. Mae godineb yn bechod yn erbyn Duw ac yn erbyn y cymar priodas. (Hebreaid 13:4) Perthynas rywiol y tu allan i’r briodas yw’r unig sail Ysgrythurol dros ysgaru sy’n caniatáu ailbriodi. (Mathew 19:6-9; Rhufeiniaid 7:2, 3) Mae Jehofah yn casáu gweld pobl yn ysgaru heb fod sail Ysgrythurol dros wneud hynny, ac yn priodi â rhywun arall. —Malachi 2:14-16.

 

Cyhoeddwyd yn 1996

AdreTopErthygl flaenorolErthygl nesaf

Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved.