| Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? | Gwers 10 |
Gweithredoedd Mae Duw yn eu Casáu |
|
| Sut dylech chi deimlo ynglŷn â phethau mae Duw yn dweud eu bod nhw’n ddrwg? (1) | |
| Pa fathau o ymddygiad rhywiol sy’n anghywir? (2) | |
| Beth ddylai agwedd Cristion fod tuag at ddweud celwydd? (3) gamblo? (3) lladrata? (3) trais? (4) ysbrydegaeth? (5) meddwdod? (6) | |
| Sut gall person ymryddhau oddi wrth weithredoedd drwg? (7) | |
1. Mae gweision Duw yn caru’r hyn sydd yn dda. Ond mae’n rhaid iddyn’ nhw hefyd ddysgu casáu yr hyn sy’n ddrwg. (Salmau 97:10) Mae hynny’n golygu osgoi gweithgareddau arbennig y mae Duw yn eu casáu. Beth yw rhai o’r gweithgareddau hynny? 2. Puteindra: Mae cael rhyw cyn priodi, godinebu, bwystfileidd-dra, llosgach, a gwrywgydiaeth oll yn bechodau difrifol yn erbyn Duw. (Lefiticus 18:6; Rhufeiniaid 1:26, 27; 1 Corinthiaid 6:9, 10) Os yw pâr yn byw gyda’i gilydd ond heb briodi, fe ddylent wahanu neu briodi’n gyfreithlon.—Hebreaid 13:4.
3. Dweud Celwydd, Gamblo, Lladrata: Ni all Jehofah Dduw ddweud celwydd. (Titus 1:2) Mae’n rhaid i unigolion sydd am fod yn gymeradwy ganddo osgoi dweud celwydd. (Diarhebion 6:16-19; Colosiaid 3:9, 10) Mae pob ffurf ar gamblo wedi’i lygru gan chwant. Felly ’dyw Cristnogion ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw fath o gamblo, fel lotrïau, rasio ceffylau, a bingo. (Effesiaid 5:3-5) A ’dyw Cristnogion ddim yn lladrata. ’Dydyn nhw ddim yn ymwybodol brynu eiddo sydd wedi’i ladrata nac yn cymryd pethau heb ganiatâd.—Exodus 20:15; Effesiaid 4:28. 4. Tymer ddrwg, Trais: Fe all tymer ddireolaeth arwain at weithredoedd o drais. (Genesis 4:5-8) Ni all person treisgar fod yn gyfaill i Dduw. (Salmau 11:5; Diarhebion 22:24, 25) Nid yw’n iawn dial neu dalu drwg am y pethau anfad y gall eraill eu gwneud inni.—Diarhebion 24:29; Rhufeiniaid 12:17-21. 5. Swyngyfaredd ac Ysbrydegaeth: Mae rhai pobl yn galw ar bwerau ysbrydol i geisio gwella clefydau. Mae eraill yn bwrw swynion ar eu gelynion i’w gwneud yn glaf neu hyd yn oed i’w lladd nhw. Y grym y tu ôl i’r holl weithgareddau hyn ydi Satan. Felly nid yw Cristnogion i gymryd rhan yn unrhyw un ohonynt. (Deuteronomium 18:9-13) Cadw’n agos at Jehofah ydi’r amddiffyn gorau rhag swyngyfareddau y gall eraill eu bwrw arnom.—Diarhebion 18:10. 6. Meddwdod: ’Does dim o’i le mewn yfed ychydig win, neu gwrw neu ddiod alcoholaidd arall. (Salmau 104:15; 1 Timotheus 5:23) Ond mae yfed trwm a meddwdod yn ddrwg yng ngolwg Duw. (1 Corinthiaid 5:11-13; 1 Timotheus 3:8) Fe all yfed yn ormodol ddifetha’ch iechyd chi a tharfu ar eich teulu. Fe all hefyd achosi i chi ildio’n fuan iawn i demtasiynau eraill.—Diarhebion 23:20, 21, 29-35. 7. Ni chaiff unigolion sy’n gweithredu’r pethau y mae Duw yn dweud eu bod nhw’n ddrwg “etifeddu teyrnas Dduw.” (Galatiaid 5:19-21) Os ydych chi’n caru Duw yn wirioneddol ac yn dymuno ei foddhau, fe allwch ymryddhau oddi wrth y gweithredoedd hyn. (1 Ioan 5:3) Dysgwch gasáu yr hyn mae Duw yn ei ddweud sy’n ddrwg. (Rhufeiniaid 12:9) Cymdeithaswch â phobl sydd ag arferion duwiol. (Diarhebion 13:20) Fe all cyfeillion Cristnogol aeddfed eich helpu. (Iago 5:14) Yn fwy na dim, ymddiriedwch yn help Duw drwy weddi.—Philipiaid 4:6, 7, 13. |
||
Cyhoeddwyd yn 1996 |
|
Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved. |
|