| Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? | Gwers 11 |
Credoau a Thraddodiadau Nad Ydyn’ nhw’n Boddhau Duw |
|
| Pa fath o gredoau a thraddodiadau sy’n anghywir? (1) | |
| ’Ddylai Cristnogion gredu fod Duw yn Drindod? (2) | |
| Pam nad yw gwir Gristnogion yn dathlu’r Nadolig, Y Pasg, a phennau blwydd? (3, 4) | |
| ’Fedr y meirw niweidio’r byw? (5) | |
| Ai ar groes y bu farw Iesu? (6) | |
| Pa mor bwysig yw boddhau Duw? (7) | |
1. Nid yw pob credo a thraddodiad yn ddrwg. Ond nid yw Duw yn eu cymeradwyo os mai o gau grefydd y dônt neu os ydyn’ nhw yn groes i athrawiaethau’r Beibl.—Mathew 15:6. 2. Y Drindod: Ai Trindod yw Jehofah—tri pherson mewn un Duw? Nage! Yr “unig wir Dduw” yw Jehofah, y Tad. (Ioan 17:3; Marc 12:29) Iesu yw Ei Fab cyntafanedig, ac mae e’n ddarostyngedig i Dduw. (1 Corinthiaid 11:3) Mae’r Tad yn fwy na’r Mab. (Ioan 14:28) Nid person yw’r ysbryd sanctaidd; grym gweithredol Duw ydyw.—Genesis 1:2; Actau 2:18.
3. Y Nadolig a’r Pasg: Ni aned Iesu ar Ragfyr 25. Fe’i ganed tua Hydref 1, adeg o’r flwyddyn pan gadwai bugeiliaid eu preiddiau yn yr awyr agored yn ystod y nos. (Luc 2:8-12) Ni orchmynnodd Iesu erioed i Gristnogion ddathlu ei eni. Yn hytrach, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion i goffáu, neu gofio, ei farw. (Luc 22:19, 20) Daw’r Nadolig a’i ddefodau o hen, hen grefyddau gau. Mae’r un peth yn wir am ddefodau’r Pasg, megis defnyddio wyau a chwningod. ’Doedd y Cristnogion cynnar ddim yn dathlu’r Nadolig na’r Pasg, a ’dyw gwir Gristnogion ddim yn gwneud heddiw chwaith. 4. Pennau blwydd: Dwy waith yn unig yn y Beibl mae sôn am ddathlu penblwydd a hynny gan unigolion nad oeddent yn addoli Jehofah. (Genesis 40:20-22; Marc 6:21, 22, 24-27) ’Doedd y Cristnogion cynnar ddim yn dathlu pennau blwydd. O hen, hen grefyddau gau y daw’r arfer o ddathlu pennau blwydd. Mae gwir Gristnogion yn rhoi anrhegion ac yn mwynhau cwmni ei gilydd ar adegau eraill yn ystod yflwyddyn. 5. Ofn y Meirw: Ni all y meirw wneud dim na theimlo dim. ’Fedrwn ni ddim eu helpu nhw, a ’fedran’ nhw ddim ein brifo ni. (Salmau 146:4; Pregethwr 9:5, 10) Mae’r enaid yn marw; nid yw’n parhau i fyw wedi marwolaeth. (Eseciel 18:4, BCL) Ond weithiau mae angylion drwg, a elwir yn gythreuliaid, yn esgus mai nhw yw ysbrydion y meirw. Mae unrhyw ddefodau sy’n ymwneud ag ofni’r meirw neu eu haddoli yn anghywir.—Eseia 8:19. 6. Y Groes: Nid ar groes y bu farw Iesu. Bu farw ar bren, neu stanc. Ystyr syml y gair Groeg a gyfieithir “croes” mewn llawer o Feiblau oedd un darn o goedyn. O hen, hen grefyddau gau y daw symbol y groes. Ni ddefnyddiwyd y groes gan y Cristnogion cynnar na’i haddoli ganddynt. Felly, ydych chi’n credu y byddai’n iawn defnyddio croes wrth addoli?—Deuteronomium 7:26; 1 Corinthiaid 10:14. 7. Fe all ei bod hi’n anodd iawn cefnu ar rai o’r credoau a’r traddodiadau hyn. Efallai y bydd perthnasau a ffrindiau yn ceisio eich argyhoeddi chi i beidio â newid eich credoau. Ond mae boddhau Duw yn bwysicach na phlesio dynion.—Diarhebion 29:25; Mathew 10:36, 37. |
||||||
Cyhoeddwyd yn 1996 |
|
Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved. |
|