| Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? | Gwers 14 |
Sut Cyfundrefnir Tystion Jehofah |
|
| Pryd cafodd Tystion Jehofah gychwyn yn yr oes ddiweddar? (1) | |
| Sut mae cyfarfodydd Tystion Jehofah yn cael eu cynnal? (2) | |
| Sut gofelir am dreuliau? (3) | |
| Pwy sy’n cymryd yr arweiniad ym mhob cynulleidfa? (4) | |
| Pa gyfarfodydd mwy a gynhelir bob blwyddyn? (5) | |
| Pa waith a wneir yn eu pencadlys a’u swyddfeydd cangen? (6) | |
1. Rhoddwyd cychwyn i Dystion Jehofah yn yr oes ddiweddar yn y 1870au. Ar y cychwyn, fe’u galwyd wrth yr enw Myfyrwyr y Beibl. Ond yn 1931 fe fu iddyn’ nhw fabwysiadu’r enw Ysgrythurol, Tystion Jehofah. (Eseia 43:10) O gychwyniadau bychain mae’r gyfundrefn wedi tyfu’n filiynau o Dystion, sydd yn brysur yn pregethu mewn rhagor na 230 o wledydd.
2. Mae’r mwyafrif o gynulleidfaoedd Tystion Jehofah yn cynnal cyfarfodydd dair gwaith bob wythnos. Gwahoddir chi i fod yn bresennol yn unrhyw un o’r rhain. (Hebreaid 10:24, 25) Y Beibl yw sail yr hyn a ddysgir. Fe agorir ac fe gloir cyfarfodydd â gweddi. Hefyd fe genir “caniadau ysbrydol” o’r galon yn y mwyafrif o’r cyfarfodydd. (Effesiaid 5:18, 19) ’Does dim tâl am fynediad, ac ni wneir casgliad.—Mathew 10:8. 3. Mae’r mwyafrif o gynulleidfaoedd yn cynnal cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas. Fel rheol adeilad syml ydyw wedi’i godi gan wirfoddolwyr o Dystion. ’Welwch chi ddim eilunod, croesau, na phethau o’r fath yn Neuadd y Deyrnas. Fe delir am dreuliau drwy roddion gwirfoddol. Mae blwch cyfrannu ar gyfer y sawl sydd yn dymuno rhoddi.—2 Corinthiaid 9:7.
4. Ym mhob cynulleidfa mae ’na henuriaid, neu oruchwylwyr. Nhw sy’n cymryd yr arweiniad yn hyfforddi’r gynulleidfa. (1 Timotheus 3:1-7; 5:17) Maen’ nhw’n cael eu cynorthwyo gan weision gweinidogaethol. (1 Timotheus 3:8-10, 12, 13) Nid yw’r dynion hyn yn cael eu dyrchafu uwchben gweddill y gynulleidfa. (2 Corinthiaid 1:24) ’Does dim teitlau arbennig ganddyn’ nhw. (Mathew 23:8-10) ’Dydyn’ nhw ddim yn gwisgo’n wahanol i eraill. ’Dydyn nhw ddim chwaith yn cael eu talu am eu gwaith. Mae’r henuriaid yn gofalu o’u gwirfodd am anghenion ysbrydol y gynulleidfa. Fe allan’ nhw ddarparu cysur a chyngor yn amser gofid.—Iago 5:14-16; 1 Pedr 5:2, 3. 5. Mae Tystion Jehofah hefyd yn cynnal cynulliadau neu gymanfaoedd mawr bob blwyddyn. Ar yr adegau hyn daw llawer o gynulleidfaoedd at ei gilydd ar gyfer rhaglen arbennig o hyfforddiant o’r Beibl. Mae bedyddio disgyblion newydd yn rhan reolaidd o raglen pob cynulliad a chymanfa.—Mathew 3:13-17; 28:19, 20. 6. Yn Efrog Newydd mae pencadlysbyd Tystion Jehofah. Yno lleolir y Corff Llywodraethol, grŵp allweddol o henuriaid profiadol sy’n goruchwylio’r gynulleidfa fyd-eang. Mae hefyd dros 100 o swyddfeydd cangen dros y byd. Yn y mannau hyn, mae gwirfoddolwyr yn helpu i argraffu a danfon llenyddiaeth Feiblaidd. Rhoddir cyfarwyddyd hefyd ynglŷn â threfnu’r gwaith pregethu. Pam na threfnwch chi i ymweld â’r swyddfa gangen agosaf atoch chi?
|
|||
Cyhoeddwyd yn 1996 |
|
Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved. |
|