| Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? | Gwers 15 |
Helpu Eraill i Wneud Ewyllys Duw |
|
| Pam dweud wrth eraill am yr hyn ’rydych yn ei ddysgu? (1) | |
| Â phwy y gallwch chi rannu’r newydd da? (2) | |
| Pa effaith all eich ymddygiad ei gael ar eraill? (2) | |
| Pryd cewch chi bregethu gyda’r gynulleidfa? (3) | |
1. Erbyn hyn ’rydych wedi dysgu llawer o bethau da o’r Beibl. Fe ddylai’r wybodaeth hon eich arwain chi i feithrin natur Gristnogol. (Effesiaid 4:22-24) Mae gwybodaeth o’r fath yn hanfodol er mwyn i chi ennill bywyd tragwyddol. (Ioan 17:3) Fodd bynnag, mae angen i eraill yn ogystal glywed y newydd da fel y gellir eu hachub nhw hefyd. Mae’n rhaid i bob gwir Gristion dystiolaethu i eraill. Gorchymyn Duw ydyw.— Rhufeiniaid 10:10; 1 Corinthiaid 9:16; 1 Timotheus 4:16. 2. Mi fedrwch chi gychwyn drwy rannu’r pethau da ’rydych yn eu dysgu gyda’r rhai sy’n agos atoch chi. Adroddwch nhw i’ch teulu, ffrindiau, cyd-ddisgyblion yn yr ysgol, a chydweithwyr. Byddwch yn garedig ac yn amyneddgar wrth i chi wneud hyn. (2 Timotheus 2:24, 25) Cofiwch fod pobl yn aml yn sylwi ar ymddygiad rhywun yn fwy nag y maen’ nhw’n gwrando ar yr hyn mae’n ei ddweud. Felly fe all eich ymddygiad da ddenu eraill i wrando ar y neges sydd gennych i’w dweud wrthynt.—Mathew 5:16; 1 Pedr 3:1, 2, 16. 3. Gydag amser, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau pregethu gyda chynulleidfa leol Tystion Jehofah. Mae hyn yn gam pwysig yn eich cynnydd. (Mathew 24:14) Dyna hyfrydwch fyddai petaech chi’n gallu helpu rhywun arall i ddod i wasanaethu Jehofah ac ennill bywyd tragwyddol! —1 Thesaloniaid 2:19, 20. |
||
Cyhoeddwyd yn 1996 |
|
Copyright © 2006 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. All rights reserved. |
|